18 Tachwedd 2020
Annwyl Ddirprwy Weinidog
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22
Yn unol â’n harfer, ysgrifennaf atoch cyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig i lywio gwaith craffu’r Pwyllgor.
Rydym yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft ar 21 Rhagfyr 2020, a hoffem gynnal sesiwn tystiolaeth lafar gyda chi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Bydd y Clerc yn cysylltu â'ch swyddfa i drafod dyddiadau.
I helpu â’n paratoadau, byddwn yn ddiolchgar o dderbyn manylion y wybodaeth a nodir yn yr Atodiad i'r llythyr hwn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall yr hoffech ei darparu, erbyn dydd Mawrth 22 Rhagfyr.
Yn gywir
Dr Dai Lloyd AS
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Atodiad 1
Cais gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth roi gwybodaeth i lywio'r gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22.
Sylwadau ar y camau gweithredu a manylion am ddyraniadau'r Llinellau Gwariant yn y Gyllideb
· Dadansoddiad o ddyraniadau’r Prif Grŵp Gwariant ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg 2021-22 sy'n ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol (yn ôl Maes Rhaglenni Gwariant, camau gweithredu a’r Llinell Wariant yn y Gyllideb).
· Dyraniadau dangosol y Prif Grŵp Gwariant ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg 2022-23 sy’n ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
· Sylwadau ar bob un o’r camau gweithredu yn y Prif Grŵp Gwariant ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg sy’n ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan gynnwys dadansoddiad ac esboniad o’r newidiadau rhwng Cyllideb Ddrafft 2021-22 a'r Gyllideb Atodol Gyntaf (Mai 2020).
Yn ychwanegol at y pedair thema arferol, sef gwerth am arian, blaenoriaethu, gwariant ataliol a fforddiadwyedd, hoffai'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y canlynol yn benodol (lle nad yw eisoes wedi'i chynnwys yn y sylwadau ar bob cam gweithredu):
· Pa effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ar gyfranogiad a darpariaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a'r blaenoriaethau a'r dyraniadau i fynd i'r afael ag unrhyw effaith.
· Yr arian a ddyrennir i Chwaraeon Cymru, a'r cynnydd a wnaed wrth fonitro effeithiolrwydd defnydd Chwaraeon Cymru o arian.
· Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol dros y tair blynedd nesaf, a dyraniadau/gwariant rhagamcanol i gyflawni'r rhain.
· Pa dystiolaeth sydd wedi ysgogi gwaith gosod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r gyllideb arfaethedig ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
· Tystiolaeth o sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a’r pum ffordd o weithio wedi dylanwadu ar ddyraniadau'r gyllideb ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
· Tystiolaeth o sut y mae blaenoriaethau a dyraniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyfrannu at amcanion cydraddoldeb Llywodraeth Cymru ac yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
· Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb arbennig mewn cael manylion ynghylch sut y bydd y gyllideb yn cefnogi'r canlynol:
o cynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru;
o yr agenda atal ehangach;
o cydweithio rhwng chwaraeon, iechyd y cyhoedd a phartneriaid eraill.
Ar y pwynt olaf hwn, ac o ystyried effaith Covid-19 eleni, hoffai’r Pwyllgor gael unrhyw ddiweddariad y gallwch ei ddarparu ar Argymhellion 13 a 14 sydd wedi'u cynnwys yn ein hadroddiad ar Gyllideb Ddrafft y llynedd.